Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar PCS, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 17 Medi 2014, yn Ystafell Gynhadledd 'D', Tŷ Hywel

 

Yn bresennol: Julie Morgan AC (cadeirydd); Mick Antoniw AC; Mike Hedges AC; Bethan Jenkins AC; Alison Burrowes (PCS); Siân Wiblin (PCS); Darren Williams (PCS).

Ymddiheuriadau: Rhodri Glyn Thomas AC

 

1.    Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

 

·         ethol cadeirydd ac is-gadeirydd: Ail-etholwyd Julie Morgan yn gadeirydd yn ddiwrthwynebiad a Rhodri Glyn Thomas yn is-gadeirydd.

 

·         ail-gofrestru'r Grŵp gyda'r Swyddfa Gyflwyno: Ail-nodwyd manylion y Grŵp ar y ffurflen gofrestru.

 

·         Cam i’w gymryd: Swyddfa Julie i gysylltu ag Aelodau'r Cynulliad o'r pleidiau hynny nad ydynt wedi'u cynrychioli yn y cyfarfod, yn gofyn iddynt lofnodi'r ffurflen, ac yna ei hail-gyflwyno i'r Swyddfa Gyflwyno.

 

·         Adolygiad o weithgareddau dros y flwyddyn ddiwethaf a chynlluniau ar gyfer 2014/15: Y Grŵp wedi cynnal dim ond un cyfarfod yn ystod y deuddeg mis blaenorol - ym mis Rhagfyr 2013, a'r prif faterion a drafodwyd bryd hynny oedd colli swyddi a chau swyddfeydd Cyllid a Thollau EM. Roedd aelodau'r grŵp, fodd bynnag, wedi cefnogi aelodau'r PCS ar sawl achlysur arall, yn enwedig pan oeddent wedi gweithredu'n ddiwydiannol. Cytunwyd mai'r nod oedd dychwelyd at yr arfer blaenorol o dri chyfarfod y flwyddyn, ac y dylai dyddiadau dros dro gael eu cytuno o flaen llaw, cyhyd ag y bo modd, ar gyfer y flwyddyn gyfan. Cytunwyd hefyd y dylai PCS anelu at roi rhybudd cynnar i aelodau'r Grŵp am unrhyw weithredu diwydiannol neu gynlluniau ymgyrchu eraill a gynhelir gan ei aelodau.

 

·         Cam i’w gymryd: Y PCS i ddosbarthu dyddiadau dros dro cyn gynted â phosibl.

 

·         Unrhyw Fater Arall: dim.

 

2.    Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol:

 

·         anghydfod cenedlaethol gyda llywodraeth y DU: Rhoddodd y PCS y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghydfod parhaus â Llywodraeth y DU dros gyfres o faterion, gan gynnwys cwtogi ar swyddi, toriadau i bensiynau a phreifateiddio. Y prif ffocws dros y misoedd diwethaf oedd cap cyflog o 1% y Trysorlys, a oedd yn cael ei gymhwyso ar draws y gwasanaeth sifil (gan gynnwys y sector datganoledig, a oedd mewn enw yn ymreolaethol yn hyn o beth) a'r sector cyhoeddus ehangach. Roedd aelodau'r PCS wedi streicio ar 10 Gorffennaf, ar y cyd ag aelodau Unsain, Unite a GMB mewn llywodraeth leol, ac aelodau o'r FBU a'r NUT. Roedd yr undebau llywodraeth leol am weithredu rhagor ar 14 Hydref, ac roedd disgwyl cyhoeddiad yn fuan ynghylch a fyddai aelodau PCS hefyd yn cymryd rhan. Mae llywodraeth y DU yn hefyd yn hyrwyddo'r ffaith bod adrannau Whitehall yn tynnu'n ôl o'r trefniadau 'check-off' hirsefydlog, lle y caiff taliadau aelodaeth undeb eu didynnu yn uniongyrchol o gyflogau aelodau o staff. Roedd y Swyddfa Gartref eisoes wedi cyhoeddi diwedd yr arfer hwn, felly roedd yr undeb yn cymryd rhan mewn ymgyrch fawr i annog pob aelod i gofrestru i dalu drwy ddebyd uniongyrchol. Yn ffodus, nid oedd unrhyw fygythiad i ddod ag arfer 'check-off' i ben yn ardaloedd datganoledig Cymru a'r Alban.  

 

·         anghydfod ynghylch cyflogau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru: Rhoddodd y PCS y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghydfod, a ysgogwyd gan newidiadau i drefniadau cyflog a gyhoeddwyd gan y rheolwyr, a fyddai'n golygu torri taliadau premiwm a gaiff staff am weithio penwythnosau a dyddiau gŵyl banc a'u newid i beidio â bod yn daliadau pensiynadwy. Roedd y taliadau premiwm yn gyfran sylweddol o gyflog terfynol y staff sydd ar raddfeydd cyflog is; effeithiodd y newidiadau lawer yn llai ar yr uwch staff. Telir llai na'r Cyflog Byw i rai aelodau staff ac, er bod rheolwyr yn ceisio mynd i'r afael â hyn, byddai'n cael ei wrthbwyso gan golli'r taliadau premiwm. Ni fu cynnydd costau byw ers nifer o flynyddoedd; gofynnodd yr undebau am drafodaethau ar hyn ar wahân i'r mater o daliadau premiwm, ond nid oedd hyn wedi digwydd. Cynhaliwyd cyfres o streiciau hanner diwrnod dros dri phenwythnos ym mis Awst. Roedd y rheolwyr wedi gohirio cyflwyno'r newidiadau i daliadau premiwm, i aros am adolygiad o'r gweithgareddau cyswllt cyntaf. Ceisiodd y PCS siarad yn uniongyrchol ag ymddiriedolwyr yr Amgueddfa, ond gwrthodwyd.   

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at gadeirydd yr ymddiriedolwyr, yn eu hannog i gwrdd â'r undebau; y Grŵp hefyd i ysgrifennu at Ken Skates, y dirprwy weinidog newydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant.

 

·         anghydfod ynghylch cyflogau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Roedd aelodau'r PCS, Prospect ac FDA yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi streicio am ddiwrnod ar 10 Medi o ganlyniad i'r anghydfod ynghylch cyflogau. Nid oedd y rhan fwyaf o'r staff wedi cael codiad cyflog cyfunol ers 2009 ac eleni nid oedd y rheolwyr hyd yn oed wedi ceisio gwneud gwaith i roi unrhyw gynnydd o gwbl yn y cyflog. Crëwyd drwgdeimlad hefyd gan y penderfyniad gan y Llyfrgellydd newydd i ddyfarnu codiad cyflog o 10% (a dynnwyd yn ôl ers hynny) i aelod o'r uwch dîm rheoli, ac i newid mewn ffordd unochrog y peirianwaith a sefydlwyd ar gyfer trafod ac ymgynghori. Mae cyflogau yn y Llyfrgell bellach yn cael eu hystyried yn anghystadleuol, fel yr adlewyrchwyd gan ymadawiad diweddar 24 o staff, 17 i gymryd swyddi mewn mannau eraill a oedd yn talu'n well.

 

Cam i’w gymryd: Y PCS i ddosbarthu papur briffio manwl i'r Grŵp; y Grŵp i ysgrifennu at ymddiriedolwyr yr Amgueddfa i fynegi pryder am y sefyllfa.

 

·         Unrhyw fater arall. Rhoddodd y PCS y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch yn erbyn preifateiddio Gwasanaethau a Rennir y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n cyflogi 700 o staff yng Nghasnewydd a 150 yn Bootle. Er gwaethaf streic a oedd wedi'i chefnogi'n dda dros yr haf, mae'r contract gyda'r darparwr newydd, SSCL, i gael ei lofnodi'n fuan iawn, ac mae'r undeb bellach yn canolbwyntio ar geisio sicrhau y bydd rhywfaint o warchodaeth ar gael i staff sydd am aros yn y gwasanaeth sifil neu am gymryd diswyddiad gwirfoddol.

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, i gefnogi safbwynt yr undeb ac i fynegi pryder ynghylch y disgwyl y bydd gwaith y Gwasanaeth a Rennir yn cael ei wneud y tu allan i'r wlad.